Dressing Mill Paintings
Lluniau Felin Drin
FRONGOCH AND WEMYSS SERIES
Artists Statement
In my work I aim to create a resonance, a sense of time, of place of what might have been and what was and is. I do not see my paintings as landscapes in the simple sense, although based around that which is visible I aim to evoke what lies beneath the surface both physically and metaphorically. They are expressive symbolic allegories of the lives lived, time spent, that which has brought us to where we are now and the that which will influence where we will go from here. Forgotten and remembered, truths, lies and perceptions.
Ostensibly based around the almost forgotten industrial past of the mountains of Ceredigion in Mid Wales, these paintings allude to attitudes and approaches to people, place and environment that have occurred and will occur throughout space and time.
This series of works are based around the ruins and remains of Lead Mines close to my home. The scale of the operation was staggering, blinkered men of vision moulded the landscape into a giant machine to power huge and extensive underground workings. Men, women and children worked in horrendous conditions for long hours. The detritus from the mines loaded with toxic heavy metals was dumped in heaps so inhospitable that even after a hundred years virtually nothing grows on them (the landscape as Sleeping Beauty). Venture capitalists and shareholders invested, made and lost fortunes without a thought for the effects their money had. Once the assets were stripped the money markets moved on and the landscape and people were left but this brief flurry left its marks on landscape and society.
In these paintings I incorporate pages from an old Welsh Bible that was thrown away, an unwanted relic imbued with meaning representing the importance of language and religion in bringing us to where we are now. The early printing of Welsh language bibles and the importance of this in the development of non-conformist religion and the building of Chapels has left its mark. Non-conformism played its part in political and societal changes. The Chapels crumble or are converted into dwellings, the language thrives but even this creates divisions, is good, bad or indifferent depending on your perspective.
I use a range of textured greys in these paintings these are evocative of the extensive heaps of debris removed from the mines, which still leach heavy metals into the water course and provide endless fun and toxic clouds of dust for off road vehicle users of various types. They have a certain bleak beauty of their own and are a memorial to the environmental policies of unbridled capitalism – past, present and future, here, there and everywhere. Greys are subtle and beautiful, initially they can appear dull and uninteresting but further examination rewards the viewer and the artist with an understanding of the interrelations between colour tone and shade. They can be silvery and magical like a moonlight night, dark and oppressive like a poorly lit tunnel or restful and soothing like sunlight on water.
Metallic paint symbolizes the lead, zinc and small amounts of silver and gold extracted from the structure of the mountains. I use it to represent these buildings in their role as cathedrals to acquisition. On misty days the ruins evoke the paintings of Caspar David Friedrich but these are the remnants of Victorian capitalism rather than a superseded religion.
CYFRES FRONGOCH A WEMYSS
Datganiad yr Arlunyddes
Bwriadaf greu soniaredd, cysyniad o amser, o leoliad, o’r hyn a allasai wedi bod, yr hyn a fu a’r hyn sydd yn awr. Nid ydwyf yn gweld fy arluniau yn dirweddau traddodiadol, er fy mod yn bwriadu dwyn i gof yr hyn sydd o dan yr arwyneb, yn ddiriaethol ac yn drosiadol. Mae fy ngwaith yn alegori o fywydau a fu, amserau a dreuliwyd, yr hyn sydd wedi ein tywys i’n cyflwr presennol a’r hyn a fydd yn dylanwadu ar drywydd ein taith yn y dyfodol. Yr hyn sydd yn anghof, gwirionedd, celwydd ac amgyffrediad.
Wedi eu lleoli o amgylch gorffennol ddiwydiannol, sydd bron yn anghof, Ceredigion a’r Canolbarth, mae’r peintiadau hyn yn portreadu triniaethau o bobl, llefydd a’r amgylchfyd sydd wedi bod ac yn mynd i ddod trwy gydol gofod ac amser.
Mae’r gyfres hon wedi ei seilio ar weddyllion ac adfeilion y Mwynféydd Plwm ger fy nghartref. Roedd graddfa’r gwaith yn syfrdanol, cerfiwyd y tirwedd i greu cawr o beiriant i bweru’r cloddféydd tanddaearol enfawr gan ddynion dall â’u golwg ar y gorwel. Bu dynion, merched a phlant yn gweithio dan amgylchiadau ddychrynllyd am oriau maith. Tomennwyd malion y diwydiant mewn pentyrrau enfawr, ac oherwydd y metalau trwm ynddynt, does fawr yn tyfu arnynt hyd heddiw, dros gan mlynedd yn ddiweddarach (y tirwedd fel y Rhiain Gwsg). Buddsoddwyd, ennillwyd a chollwyd ffortiynnau gan gyfalafwyr menter a chyfranddalwyr heb iddynt ystyried yr effaith y byddau hyn yn ei gael. Unwaith i’r cyfoeth tanddaearol ddiddymu, cefnodd y marchnadoedd arian ar y tir a’r bobl a gadwyd creithiau’r diwydiant ar y tirwedd ac ar gymdeithas
Cynhwysaf dudalennau o hen Feibl Cymraeg a daflwyd, crair ddianghenrhaid yn llawn ystyron, yn cynrychioli pwysigrwydd iaith a chrefydd ar y daith i’r cyflwr presennol. Bu argraffiadau Cymraeg cynnar o’r Beibl a’u pwysigrwydd yn nharddiad Anghydffurfiaeth ac adeiladu’r capeli yn ganolog i hanes yr ardal, ac mae’r atseiniau’n parháu. Bu Anghydffurfiaeth yn ganolog i chwyldroádau gwleidyddol a chymdeithasol. Mae’r Capeli yn syrthio neu’n cael eu gweddnewid i dai, mae’r iaith yn ffynnu ond mae hyd yn oed hyn yn creu ymraniadau, sydd yn dda, yn ddrwg neu’n ddim yn dibynnu ar eich safbwynt.
Defnyddiaf amryw o lwydion ansoddedig i’n hatgoffa o’r tomenni gwastraff a grafwyd o’r mwynféydd, sydd yn parháu i ollwng metalau trymion i’r afonydd a’r nentydd ac sydd yn rhoddi hwyl diddiwedd a chymylau o lwch tocsig i yrrwyr cerbydau traws gwlad o bob math. Mae yna brydferthwch anial iddynt, yn gofeb i bolisíau amgylcheddol cyfalafaeth penrhydd – yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, fan hyn, fan draw, ac ym mhobman. Mae llwydion yn gynnil ac yn brydferth, ar yr olwg gyntaf gallant ymddangos yn ddiflas ac anniddorol ond mae arolygiad agosach yn gwobrwyo’r gwyliwr a’r arlunydd â deallusrwydd o’r gydberthynas rhwng lliw, arlliwiad a chysgod. Gallant fod yn ariannaidd a hudol fel noson olau leuad, yn dywyll a gormesol fel twnel diolau neu yn orffwyslon ac esmwythaol fel golau’r haul ar ddwr..
Mae paent metalig yn symboleiddio’r plwm, y sinc a’r briwsion o arian ac aur a dynnwyd o strwythyr y mynyddoedd. Fe’i defnyddiant i gynrychioli’r adeiladau hyn wrth iddynt chwarae eu rhan yn Demlau i gaffaeliad. Ar ddiwrnodau niwlog mae’r adfeilion yn fy atgoffa o beintiadau Caspar David Friedrich, ond gweddyllion cyfalafaeth Fictorianaidd ydyw’r rhain yn hytrach na chrefydd ddisodledig.